Cwestiynau Cyffredin
Beth alla i ei wneud ar Veri?
Fel dysgwr, gallwch reoli eich fersiynau electronig ac argraffedig o'ch dogfennau gradd (tystysgrifau, trawsgrifiadau, ACAU, llythyrau, ynghyd ag unrhyw ddogfennau swyddogol eraill). Mae hyn yn golygu gallwch edrych ar eich copïau electronig, archebu adargraffiadau, rhannu mynediad ar-lein i gyflogwyr a thrydydd partïon eraill, ac adrodd am unrhyw wallau. Rydym hefyd yn cynnig tystysgrifau gradd wedi'u fframio - gweler Tystysgrifau Cyflwyno i weld yr ystod o fframiau moethus a mowntiau.
Fel cyflogwr, gallwch weld dogfennau gradd ar-lein gan ddysgwr sydd wedi rhoi mynediad i chi. Mae gan ddysgwyr yr hawl i ddiddymu mynediad ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd ofyn am fynediad gan fyfyrwyr penodol i weld eu dogfennau os nad ydynt eisoes wedi caniatau mynediad i chi neu gallwch ofyn iddynt i ymestyn eich mynediad os ydych angen fwy o amser.
A yw'n ddiogel i rannu fy nogfennau gradd gyda phobl eraill?
Ydy. Rydym wedi cymryd camau eithafol i atal twyll a'i wneud mor ddiogel â phosibl i rannu eich dogfennau. Drwy ddirymu mynediad pan fo angen a phenderfynu pwy sy'n cael mynediad at eich dogfennau, mae gennych reolaeth dros bwy yn union all weld eich dogfennau, pa ddogfennau gallent eu gweld, pryd y byddent yn cael eu gweld ac am ba hyd. Er bod y dogfennau electronig hyn wedi cael eu cyhoeddi gan Agored Cymru, nid ydynt yn ddilys mwyach wedi iddynt gael eu hargraffu neu dynnu oddi ar y wefan hon.
Sut mae'r dogfennau electronig eu creu?
Ar ôl argraffu eich dogfennau corfforol, mae fersiwn electronig yn cael ei uwchlwytho i'r wefan ddiogel hwn. Dim ond personél penodol yn Agored Cymru sy'n gallu argraffu neu gyhoeddi'r dogfennau hyn ac mae mesurau diogelwch ar waith i atal unrhyw un arall rhag cael mynediad i'ch dogfennau. Os byddwch yn sylwi ar wall ar eich dogfennau, dywedwch wrthym.
Ni allaf gofrestru!
Os ydych wedi cofrestru yn barod, ni fyddwch yn gallu cofrestru eto gyda'r un cyfeiriad e-bost a'r un rhif dysgwr. Yn yr achos hwn, ewch i'r dudalen mewngofnodi i geisio mewngofnodi gyda'ch manylion presennol, neu ailosodwch eich cyfrinair os nad ydych yn gallu ei gofio. Os ydych yn dal i fethu cofrestru ac yn ddefnyddiwr newydd, cysylltwch â ni fel y gallwn helpu i sefydlu eich cyfrif.
Ni allaf fewngofnodi!
Os nad ydych yn gallu mewngofnodi gall hyn fod oherwydd nifer o resymau. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrinair yn gywir neu ailosodwch eich cyfrinair os ydych wedi'i anghofio.
Gall cyfrifon hefyd cael eu rhwystro gan Agored Cymru os oes unrhyw weithgarwch amheus yn cael ei gydnabod. Cysylltwch ag Agored Cymru os ydych yn dal i fethu â chael mynediad i'ch cyfrif.
Gyda phwy y dylwn i gysylltu gydag unrhyw broblemau, cwynion neu ganmoliaethau?
Cysylltwch ag Agored Cymru.